Gwybodaeth i Ymwelwyr

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Mae Llanfairfechan yn dref fach arfordirol oddi ar Gyffordd 15 ar yr A55. Dim ond 7 milltir o dref hanesyddol Conwy i’r dwyrain a Dinas Prifysgol Bangor 7 milltir i’r gorllewin, mae Llanfairfechan mewn lle perffaith gyda chysylltiadau da ar hyd y ffyrdd a rheilffyrdd yr holl ffordd at Iwerddon a Lloegr.  

Mae modd dal bws gwasanaeth rhif 5 i Gaernarfon a Llandudno o Lanfairfechan. Mae’r bws yn gadael bob 20 munud ac yn stopio mewn nifer o lefydd ar hyd Ffordd Aber a Ffordd Penmaenmawr sy’n mynd trwy ganol y pentref 

Gweld yr amserlen.

Mae gorsaf reilffordd fach wrth y traeth ar Ffordd yr Orsaf gyda chysylltiadau gwych at Gaergybi, Manceinion, Birmingham a Llundain. Mae’n rhaid rhoi gwybod eich bod am stopio yn yr orsaf hon, tydy pob trên ddim yn stopio yn y dref.

Mae llwybr beicio rhif 5 yn mynd trwy ganol y pentref lle mae modd dod o hyd i lefydd am seibiant fel Caffi Glanafon (Riverside) a thafarn The Village Inn.

Mae maes parcio mawr am ddim ar y promenâd a maes parcio arall am ddim ar Ffordd yr Orsaf sy’n arwain tuag at lan y môr.

Yng nghanol y dref, mae maes parcio bach ger Ysgol Babanod a hefyd ychydig o lefydd parcio ar Ffordd y Pentref.

Mae toiledau cyhoeddus ym maes parcio’r promenâd a gyferbyn â Neuadd y Dref ar Ffordd y Pentref.

Mae cyfleusterau ailgylchu ym maes parcio Ffordd yr Orsaf.

Lle Doctor a Chemist  - Meddygfa Plas Menai, Ffordd Penmaenmawr, Llanfairfechan - 01248 680021

Ysbyty – Ysbyty Bryn y Neuadd (Amryw o unedau dydd ac unedau iechyd meddwl), Ffordd Aber, Llanfairfechan

Milfeddyg – Tŷ Prospect, Adeilad Plas Menai, Ffordd Penmaenmawr, Llanfairfechan - 01248 681408

Llyfrgell – Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan, Ffordd y Pentref, Llanfairfechan - 01248 681014

Meithrinfa – Meithrinfa Tŷ Bryn, Ystâd Bryn y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan - 01248 681918

Ysgol Babanod
Ffordd y Pentref, Llanfairfechan
01248 680289

Ysgol Pant Y Rhedyn
Ffordd Penmaenmawr, Llanfairfechan
01248 680642

Am restr gynhwysfawr o gyfleusterau cyhoeddus, ewch i wefan y Cyngor Tref neu i’ch Hwb

Cofrestru i dderbyn y Newyddlen

I ofalu eich bod yn derbyn y diweddaraf am ddigwyddiadau Llanfairfechan, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda...