Croeso

Croeso cynnes i wefan Llanfairfechan, gaiff ei chyflwyno gan Darganfod Llanfairfechan, mudiad twristiaeth gwirfoddol gaiff ei redeg gan dîm bach ymroddedig o berchnogion busnesau, trigolion a chynghorwyr lleol.

Mae Llanfairfechan yn dref glan môr Fictoraidd ddymunol rhwng mynyddoedd y Carneddau a'r Fenai yn Sir Conwy ar hyd arfordir gogledd Cymru. Gyda chymorth y wefan hon gallwch ddysgu am oreuon Llanfairfechan a’r ardaloedd cyfagos. Gobeithio byddwch yn mwynhau ein porth arfordirol dymunol i Eryri!

Trosolwg o Lanfairfechan

Mewn lle perffaith i fwynhau’r traeth baner glas hyfryd, y promenâd a’r warchodfa adar, mae Llanfairfechan yn cynnig lle heddychlon ichi ymlacio ar wyliau wrth ichi grwydro popeth sydd gan ogledd Cymru i’w chynnig. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn traethau a mynyddoedd, natur neu weithgareddau llawn adrenalin, mae gan ogledd Cymru y cyfan.

Mae promenâd hir Llanfairfechan yn mynd ar hyd yr arfordir ac yn rhan o Lwybr Gogledd Cymru. Ar hyd y promenâd fe welwch dai aml-lliw Fictoraidd deniadol a chaffi’r Pafiliwn, yna’r llyn cychod, sydd bellach yn gartref i deulu o elyrch, a nifer o gyfleusterau hamddena yn yr awyr agored. Tua’r gorllewin o’r cyfleusterau arfordirol canolog, mae llwybr yr arfordir yn mynd heibio i res o dai Celf a Chrefft tuag at warchodfa natur Glan Môr Elias. Rhywbeth gwerth chweil i unrhyw un sy’n hoff o adar.

Mae nifer o wahanol wasanaethau yng nghanol y dref, o Siop y Pentref, Co-op a Chigydd a siop grefftau hyfryd gyda nifer fawr o anrhegion wedi’u gwneud gan artistiaid lleol.

Mae dwy ysgol yn Llanfairfechan, Ysgol Babanod ac Ysgol Pant y Rhedyn i blant iau, yn ogystal â Neuadd y Dref, sawl tafarn a llefydd bwyta. Os ydych yn chwilio i hurio ystafell ar gyfer digwyddiad, mae’r Split Willow yn lleoliad bach neis sy’n addas ar gyfer nifer o wahanol ddigwyddiadau, gan gynnwys priodasau. Mae’r pedair tafarn leol yn gweini casgliad o wahanol gwrw a hyd yn oed jin poblogaidd Aber Falls.

Wrth fynd i fyny trwy’r dref, bydd y ffyrdd yn eich arwain at warchodfa natur Nant y Coed a mynyddoedd Eryri y tu hwnt lle mae golygfa banoramig arbennig yn eich aros. I’r rheiny ohonoch sy’n hoff o hanes, yn Llanfairfechan mae Meini Hirion ar gopâu’r mynyddoedd y mae modd ichi gyrraedd atynt trwy ddilyn Llwybr Gogledd Cymru.

Mae hi’n bleser gan fusnesau Llanfairfechan groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd ac mae llefydd i aros ar wyliau yn amrywio o ddetholiad o fythynnod gwyliau a fflatiau, i westai gwely a brecwast, tai bynciau a gwersyllfeydd. Mae’r dref yn falch ei bod wedi’i gefeillio gyda Pleumeleuc yng ngogledd Ffrainc, ac mae trigolion lleol yn croesawu ac yn rhoi llety i’w cyfeillion o Lydaw bob yn ail flwyddyn.

Os ydych yn hoff o’r hyn rydych yn ei weld, beth am alw draw i’n gweld a gweld yr holl bethau hyfryd sydd yma yn ein pentref.

Cofrestru i dderbyn y Newyddlen

I ofalu eich bod yn derbyn y diweddaraf am ddigwyddiadau Llanfairfechan, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda...