Pethau i'w gwneud

Mae Llanfairfechan yn ffodus iawn o’r nifer fawr o wahanol weithgareddau a chlybiau sydd ar gael gyda rhywbeth at ddant unrhyw un o bob oed. Cafodd y dref ei datblygu ar ddiwedd y 19eg ganrif fel lle gwyliau Fictoraidd, oherwydd ei lle diogel i ymdrochi a’r awel iach o'r môr. Mae llawer o gymeriad y dref yn parhau, ac mae hynny’n amlwg yn y gwahanol weithgareddau sydd ar gael.

Mae cwrs golff 9 twll y dref, pob un ym mar 3 gyda sawl twll dros 200 llath, ar y llethr gyda golygfeydd panoramig godidog. Mae sawl llethr o flaen neu y tu ôl i rai o’r gwyrdd yn gofyn am sgiliau sylweddol wrth anelu. Ar y cyfan, mae’r cwrs yn gosod her ar gywirdeb gyrru’r golffiwr. Mae’r tŷ clwb yn hapus iawn i groesawu ymwelwyr yn ystod y dydd.

Mae cyfleusterau’r tŷ clwb yn cynnwys ystafelloedd newid, bar gyda thrwydded, ac mae arlwyo hefyd ar gael. (mewn digwyddiadau ac ar amseroedd penodol neu drwy drefniant o flaen llaw)

Cysylltwch gydag Ysgrifennydd y Clwb ar 01248 680 144 am fwy o fanylion, ymwelwch a wefan Clwb Golff Llanfairfechan.

Sylfaenwyd yn 1990 gan y diweddar Clive Llewellyn, mae’r clwb croce wedi tyfu mewn niferoedd ers hynny ac yn hapus iawn i groesawu ymwelwyr. Yn ystod yr haf, mae aelodau’r clwb yn cynnig sesiynau agored i blant gael mwynhau dysgu’r gêm.

Mae gan y clwb ddwy lawnt gaiff eu rhannu gan amlaf yn 4 lawnt lai. Mae modd chwarae gemau lawnt lawn ar ôl 3:00yp ar bnawn dydd Sul ac ar adegau eraill pan nad ydy’r Clwb yn brysur.

Rhwng y promenâd a’r orsaf reilffordd, mae’r clwb mewn lle dymunol am gêm hamddenol o groce ar bnawn braf.

Am fwy o fanylion, dilynwch eu tudalen Facebook, Llanfairfechan & North Wales Croquet Club.

Disgwyl cyfieithiad

The ‘Llanfairfechan Short Mat Bowling Club’ organises and promotes both friendly and competitive short mat bowling.

The Club meets in the Community Centre, Llanfairfechan, on Tuesdays 2-4 pm. You are welcome to just turn up; first taster session is free.

Members pay £3 per session and non-members £4.

The annual membership fee for adults is £10 and juniors £5. Juniors must be accompanied by a responsible adult please.

New members will receive a coaching session on the basic rules and how to play.

For more information, email or call: edwardsbehi@btinternet.com

07860 467463

Mae glan y môr yn lle poblogaidd ymysg y bobl leol ar gyfer dal pysgod gwynion, lledod a mecryll wrth i’r llanw ddod i mewn. Mae pysgota bras hefyd ar gael ym mhentref cyfagos Penmaenmawr.

Mae Clwb Hwylio Llanfairfechan, sydd â chyfleusterau gwthio cychod da a pharc cychod diogel, yn croesawu ymwelwyr a’u crefftau trwy gydol y flwyddyn. Mae’r clwb yn cynnig aelodaeth dros dro sy’n caniatáu’r ymwelydd i ddefnyddio’r holl gyfleusterau sydd ar gael i aelodau llawn gan gynnwys defnyddio’r tŷ clwb sydd â thrwydded.

Ewch i wefan RYA am wybodaeth bellach.

Mae’r Fenai yn rhoi’r cyfuniad delfrydol o wynt a thonau er mwyn caniatáu i hwylfyrddwyr fwynhau profiadau bywiogus a gwerthfawr. Mae caiacio a byrddau sefyll SUP yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar y dŵr hefyd.

Mae Llanfairfechan yn lle perffaith i gerddwyr newydd a phrofiadol fwynhau’r golygfeydd godidog ar draws Môr Iwerddon tuag at Ynys Manaw, a mynyddoedd Eryri wrth fynd i’r tir.

O lwybrau arfordirol trwy warchodfeydd natur i lwybrau serth fyny at gopâu’r mynyddoedd gan fwynhau merlod y Carneddau a’r Meini Hirion ar hyd y daith.

Am rywbeth ysgafn, mae mynd am dro ar hyd y Cob wrth lan y môr neu gerdded o Lwybr Teras at goetir Nant y Coed yn berffaith er mwyn gwylio adar ac i ymlacio.

Mae gan Lanfairfechan 4 prif lwybr cerdded:

Mae pob un o’r llwybrau hyn yn addo cynnig cyfleoedd arbennig i gerdded, mwynhau natur a golygfeydd godidog ac yn freuddwyd i unrhyw ffotograffydd!

Cofrestru i dderbyn y Newyddlen

I ofalu eich bod yn derbyn y diweddaraf am ddigwyddiadau Llanfairfechan, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda...