Treftadaeth

Treftadaeth

Tua 1800-550 CC

Mae gan Lanfairfechan hanes o aneddiadau sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd, gyda chistiau sy'n cynnwys esgyrn wedi'u llosgi'n galch a chrochenwaith ger fferm Ty'n Llwyfan yn 1885.  Mae pentyrrau hefyd i'w gweld llawer ar hyd y Carneddau tuag at Ddwygyfylchi.

Tua 600CC - 100AD

Mae tystiolaeth bellach o aneddiadau Oes yr Haearn i'w gweld oddi tanodd i Garreg Fawr a Foel Lwyd ar ffurf grwpiau o gytiau caeedig ac olion systemau caeau cynnar. Roedd Braich y Dinas yn fryngaer anferth yn Oes yr Haearn, ond yn anffodus, cafodd ei gloddio ar ddechrau'r 1900au. Mae caer lai Dinas yn parhau.  

Yn 1961, daethpwyd o hyd i bedair maenfwyell gaboledig a sawl arteffact arall yn yr ardal hon lle fuasai gweithfeydd bwyelli Oes yr Haearn wedi bod unwaith.

Buasai'r ffordd Rufeinig, sydd dal i'w gweld heddiw, wedi cludo pobl o Gaerhun (Canovium) i Gaernarfon (Segontium). Mae modd gweld dyblygiadau o'r cerrig milltir Rhufeinig ger Rhiwiau, cafodd y gwreiddiol ei darganfod yn 1883, gyda charreg filltir arall wedi'i darganfod yn 1959 ar ystâd Fferm Madryn. Mae modd gweld tystiolaeth Rufeinig bellach yn Ffridd Camarnaint ar ffurf carreg saeth, a charreg wedi'i endorri gyda gêm chwarae nawtwll.

Tua 1198, credir bod yr eglwys gyntaf i'w hadeiladu o garreg wedi'i chodi ar safle presennol Eglwys y Santes Fair. Roedd wyth gwesty hysbys, neu ddarparwyr llefydd i orffwys yn nhrefgordd rydd Llanfairfechan ar yr adeg hon.

Yn dilyn y gwestai cynnar yn yr 1100au, erbyn y 15fed ganrif, roedd teuluoedd tirfeddiannol yn ymgartrefu yn y dref. Bu i deulu Gorddinog (Roberts wedi hynny) adeiladu ar y tir gaiff ei adnabod heddiw fel Fferm Plas gan ddod yn dirfeddianwyr mawr cyntaf y plwyf.  Bu i deulu Bulkeley o Ynys Môn ddechrau hawlio tir ac adeiladau ar ganol y ganrif hon, a bu i hynny bara am dair canrif.  

Hyd at y cyfnod hwn, roedd Llanfairfechan wedi bod yn gymuned ffermio. Buasai'r brif ffordd ar gyfer masnachu a'r post o Lundain i Gaergybi wedi eich tywys ar hyd Traeth Lafan.  Daeth newidiadau enfawr pan adeiladwyd y dollffordd gyntaf yn 1772 ar hyd llinell yr hen A55. Roedd Lloegr wedi arwyddo Deddf Uno gydag Iwerddon ac yn ofni y byddai'r Ffrancwyr yn heidio i beth oedd, a beth sydd yn wlad Gatholig, felly roedd angen ffyrdd gwell i'w hamddiffyn.

Bu newidiadau mawr yn yr 1800au yn Llanfairfechan. Yn flaenorol, roedd dau brif deulu wedi bod yn berchen ar y rhan fwyaf o dref Llanfairfechan, sef teulu'r Roberts a theulu'r Buckley o Fiwmares. Y boblogaeth yn 1800 gan gynnwys yr holl ffermydd a'u staff oedd 450.

Ar ganol yr 1800au cafodd rhannau mawr o dir eu gwerthu i ymwelydd rheolaidd i'r ardal, Mr Richard Luck North, cyfreithiwyr oedd wedi ymddeol o Gaerlŷr wnaeth brynu tir y Plas, ac i Mr John Platt, AS Oldham, y masnachwr tecstilau mwyaf cyfoethog y byd y cyfnod hwnnw a bu iddo brynu Ystâd Bryn y Neuadd.  

Gyda'r teuluoedd cyfoethog hyn yn cyrraedd yr ardal, dechreuodd y pentref ddatblygu.  Roedd siopau yn dechrau ymddangos ar hyd Ffordd yr Orsaf a Ffordd y Pentref. Yn 1845, dechreuodd waith ar adeiladu llinell rheilffordd o Gaer i Gaergybi gan gyflwyno cysylltiadau masnachu newydd a thwristiaeth i'n tref glan môr. Cafodd y gwaith ei gwblhau yn 1860.

Bu ddigwydd ddau drychineb yn ystod y ganrif hon:

Yn 1868 roedd colera ar led, gyda phobl yn rhoi bai ar y ffynhonnau, ac yn 1873 bu llifogydd mawr yn y dref wedi i'r afon orlifo gan achosi difrod dros ardal helaeth, ond yn ffodus ni fu unrhyw un farw.  

Bu i'r digwyddiadau hyn arwain at ffurfio bwrdd lleol yn 1874 ddaeth yn Gyngor Llanfairfechan yn 1900. Roedd y Bwrdd yn cyfarfod yn ystafell gefn Swyddfa'r Post, oedd bryd hynny lle mae'r siop sglodion sydd newydd gau yn ddiweddar gyferbyn â thafarn y Llanfair Arms. Adeiladodd Mr Luck adeilad newydd yn yr 1880au i fod y Swyddfa Bost newydd wrth ymyl siop Spar ac yn ei ddyddiau gorau roedd dwsinau o weithwyr yno o Fechgyn y Telegram, Trefnwyr, Postmyn a Staff wrth y Cownter, hyd at y Post Feistr.

Roedd John Platt a Richard Luck North ill dau yn allweddol yn natblygiad y tir, adeiladau, ysgolion, ystâd o dai celf a chrefft a chyflenwad dŵr drwy bibelli i'r tai yn ystod eu cyfnod.  Mae modd gweld tystiolaeth o'u gwaith da a'u dylanwad pensaernïol mewn sawl man gwahanol yn Llanfairfechan. Dilynwch y codau QR am daith hanesyddol o amgylch y dref.

Disgwyl cynnwys...

Bob mis mae'r gymdeithas hanesyddol leol yn cynnal cyfarfodydd lle ceir sgyrsiau ar nifer o wahanol bynciau hanesyddol. Ewch i'r dudalen Digwyddiadau am fwy o wybodaeth.

Ffynonellau:  

Llanfairfechan mewn Lluniau / Llanfairfechan in Pictures  - Lloyd Hughes

No Landing Place - Edward Doylerush

Cofrestru i dderbyn y Newyddlen

I ofalu eich bod yn derbyn y diweddaraf am ddigwyddiadau Llanfairfechan, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda...